Diogelwch

Mae diogelwch ein haelodau’n flaenoriaeth i Ewch â Mi Hefyd! – rydym i gyd yn deall yr angen i fod yn ddiogel a theimlo’n ddiogel pan fyddwn allan o gwmpas.

Awgrymiadau Diogelwch ar gyfer Eich Taith

Byddwn yn helpu eich paru â phartner teithio, ond chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun pan fyddwch allan o gwmpas. Pan fyddwch yn teithio, efallai yr hoffech ddilyn yr awgrymiadau diogelwch synnwyr cyffredin canlynol:

  • Cael gwybod am eich partneriaid teithio cyn i chi gytuno ar lifft, trwy gadarnhau eu tudalen broffil Ewch â Mi Hefyd!
  • Peidiwch â rhoi eich cyfeiriad i neb nes byddwch yn teimlo eich bod yn eu hadnabod yn ddigon da i deimlo’i bod yn ddiogel gwneud hynny.
  • Cyfarfod yn rhywle cyhoeddus - dewisiadau da yw safle bysiau, o flaen tafarn neu siop, ac ati.
  • Dweud wrth rywun gyda phwy y byddwch yn teithio, i ble a phryd fyddwch chi’n mynd a phryd ddylech chi fod yn ôl gartref.
  • Gofyn am gael gweld dull adnabod y llall (trwydded yrru, cerdyn adnabod gwaith, ac ati) pan fyddwch yn teithio gyda rhywun am y tro cyntaf – ond cofiwch roi rhybudd fel bod ganddynt y dogfennau cywir arnynt! Dylech ddisgwyl dangos eich dull adnabod eich hun yn gyfnewid.
  • Ystyried tynnu llun o’r car sy’n dod i’ch casglu (yn dangos y plât cofrestru) ac anfon y llun i gyfaill cyn i chi deithio – bydd gyrwyr yn deall – mae hwn hefyd yn awgrym diogelwch i’w gymeradwyo i bobl sy’n teithio mewn tacsis dieithr.
  • Mae Ap Ewch â Mi Hefyd! yn cynnig anfon ‘Wedi Cyrraedd!’ pan gyrhaeddwch eich cyrchfan – gallwch ddweud wrth yr ap eich bod wedi cyrraedd yn fyw ac iach. Os na wnewch, bydd yn rhybuddio eich cyswllt ac yn dweud nad ydych ble dylech fod! Mae’r nodwedd hon yn wych os byddwch eisiau bod yn sicr y bydd rhywun yn gwybod os nad ydych yn cyrraedd ble dylech fod.

Os ydych yn teimlo’n anniogel neu ‘nad yw’n teimlo’n iawn’, peidiwch â mynd. Eich diogelwch sy’n dod gyntaf.

A fydd fy manylion cysylltu personol yn weladwy i eraill?

Na, mae ein gwefan yn ddiogel a bydd eich cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost yn guddiedig bob amser. Yr unig wybodaeth sy’n weladwy i aelodau eraill yw eich enw defnyddiwr, y teithiau a geisiwyd / gynigiwyd gennych a’ch llun a’ch proffil os ydych wedi’u hychwanegu.

Gallwch ddewis pa fanylion cysylltu i’w rhannu gyda phartner teithio ac ni fyddwn yn anfon y manylion hyn cyn i chi gadarnhau’r lifft.

Pa mor ddiogel yw’r gyrwyr a’u ceir?

Pan fydd gyrwyr yn ymuno â’r cynllun byddwn yn cadarnhau eu trwyddedau gyrru. Dim ond gyrwyr gyda thrwyddedau gyrru llawn dilys a llai na 6 o bwyntiau cosb am fân dramgwyddau modurol sy’n cael eu derbyn.

Rydym hefyd yn cadarnhau bod treth a MOT dilys ar eu ceir, pan fyddant yn cofrestru gyntaf ar gyfer Ewch â Mi Hefyd! a phob blwyddyn wedi hynny.

Fodd bynnag, er mwyn eich tawelwch meddwl eich hun, rydym yn argymell eich bod yn gofyn i’r gyrrwr am rif cofrestru’r cerbyd a gwneuthuriad a model y cerbyd ac yna’n cadarnhau’r manylion ar https://www.vehicleenquiry.service.gov.uk/

Gwahoddwn holl deithwyr i sgorio eu gyrrwr ar ôl pob taith. Gallwch weld yr ymateb a gawsom ynghylch gyrrwr ar eu tudalennau proffil Ewch â Mi Hefyd!

Os byddwn yn cael cwyn ynghylch gyrrwr neu deithiwr, byddwn yn eu gwahardd dros dro o Ewch â Mi Hefyd! tra byddwn yn ymchwilio.