Cwestiynau Cyffredin

Ynghylch rhannu ceir

Gwasanaeth paru lifftiau newydd yw Ewch â Mi Hefyd! ar gyfer Sir Benfro’n unig (er ein bod yn ymestyn fymryn dros y ffiniau …)! Wedi’i seilio yn Sir Benfro ac yn cael ei redeg gan PACTO, elusen cludiant cymunedol Sir Benfro, mae Ewch â Mi Hefyd! yma i helpu paru pobl sydd angen cludiant gyda phobl sy’n gallu rhoi lifft iddynt. Gallwch ddefnyddio Ewch â Mi Hefyd! ar gyfer gwaith, hamdden, siopa; unrhyw reswm, ond bod un pen y daith yn Sir Benfro. Fel elusen cludiant lleol, rydym yn cynnig ein gwasanaeth paru lifftiau am ddim i’n defnyddwyr, diolch i gymorth ariannol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rydym yn disgwyl i deithwyr wneud cyfraniad tuag at dreuliau’r gyrrwr ar sail pellter, ond rydym yn gadael hynny i’r gyrrwr a’r teithiwr drefnu rhyngddynt. Efallai i chi weld ein cynrychiolwyr mewn mannau cyfarfod ac achlysuron o gwmpas Sir Benfro a’n logo ar wefannau a thaflenni pob math o ddigwyddiadau a lleoedd o gwmpas y sir.

Mae pobl Sir Benfro’n rhannu lifftiau’n aml – byddwn yn rhoi lifft i gydweithwyr, cyfeillion ac aelodau o’n teulu estynedig, heb feddwl dim am y peth.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod fod yna bobl sy’n methu cael lifft pan fydd arnynt angen un, a gyrwyr gyda seddau gwag a fyddai’n gwerthfawrogi cwmni neu rywun i rannu cost y daith. Yn aml mae pobl heb gar ar gael iddynt yn methu mynd i ble fynnant neu i rywle sydd angen iddynt fynd oherwydd nad yw cludiant cyhoeddus ar gael i wneud y daith honno ac ni allant fforddio taxi.

Mae Ewch â Mi Hefyd! yn helpu pobl rannu lifftiau trwy gysylltu pobl sy’n teithio i’r un cyfeiriad fel y gallant drefnu teithio ynghyd a rhannu’r costau.

Os ydych yn yrrwr, trwy rannu eich car gallwch rannu cost eich taith a lleihau eich ôl troed carbon. Byddwch hefyd yn cynorthwyo rhywun, yn cyfarfod pobl newydd o’ch cymuned a allai fod â’r un diddordebau â chi a, phwy a ŵyr, gallech wneud cyfeillion newydd ar y ffordd.

Mae rhannu car yn gwneud y canlynol:

  • Lleihau costau teithio
  • Helpu pobl fynd i fannau na allent eu cyrraedd unrhyw ffordd arall
  • Costio llai na phob math o gludiant moduraidd bron
  • Lleihau tagfeydd a llygredd
  • Lleihau problemau parcio
  • Helpu pobl gyrraedd y pethau sydd o bwys iddynt – teulu, y dafarn neu fand neu ffilm arbennig.
  • Ffordd wych o rwydweithio a gwneud cyfeillion newydd

Mae Deddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus (1981 Adran 1(4)) yn amlinellu’r rheolau sy’n llywodraethu rhannu ceir. Mae Ewch â Mi Hefyd! yn awgrymu pris fesul teithiwr am bob taith (er y gallwch gytuno ar swm llai rhyngoch – mater i chi yw hynny). Seiliwyd yr awgrym pris ar bellter eich taith a’r cyfraddau uchaf a bennwyd gan y llywodraeth.

Mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain yn datgan yn eglur na fydd rhannu ceir yn effeithio ar yswiriant eu haelodau ond peidio â gwneud elw: “Mae holl yswirwyr moduron CYP wedi cytuno, os yw eich teithwyr yn cyfrannu at eich costau cynnal, na fydd yn effeithio ar eich yswiriant, ond bod lifftiau’n cael eu rhoi mewn cerbyd gyda seddau i wyth o deithwyr neu lai”. (Ffynhonnell: ABI 2012)

Mae dros 300 o ddarparwyr yswiriant yn aelodau o CYP, yn cyfrif am ryw 95% o’r farchnad yswiriant moduron yn y DU. Fodd bynnag, dylai gyrwyr gydag unrhyw bryderon gadarnhau gyda’u cwmni yswiriant eu hunain, oherwydd y gall telerau ac amodau amrywio rhwng darparwyr yswiriant gyda threigl amser.

Defnyddio Ewch â Mi Hefyd!

Mae’r gwasanaeth ar gael i bawb sy’n 18 oed neu hŷn. Cymudwyr, myfyrwyr, cefnogwyr pêl-droed, mynychwyr gwyliau, aelodau clybiau cinio - pawb! Mae Ewch â Mi Hefyd! yn paru pobl sydd angen cludiant gyda rhywun sy’n mynd yr un ffordd, ac sy’n barod i roi lifft iddynt. Gadewch i ni gydweithio i gysylltu Sir Benfro!

Mae ymuno ag Ewch â Mi Hefyd! yn syml ac am ddim. Y cyfan sydd angen ei wneud yw ymuno. Ar-lein yw’r ffordd rwyddaf ond, os nad ydych ar-lein, peidiwch â chynhyrfu – ffoniwch ni a gallwn wneud hynny i chi dros y ffôn. Os yw rhywun arall yn cofrestru ar eich rhan ond na fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiadur i wneud ceisiadau taith ac ati, dim problem – gallwch ddewis ‘galwad ffôn’ fel eich dull cyfathrebu dewisol, a byddwn yn eich ffonio yn hytrach na thecstio / e-bostio o hynny ymlaen.

Os ydych yn yrrwr, unwaith y byddwch wedi ymuno ag Ewch â Mi Hefyd! nid oes angen i chi wneud dim cyn i ni gysylltu â chi gyda chais am daith (trwy neges testun SMS, e-bost neu alwad ffôn – eich dewis chi). Os gallwch gynorthwyo, anfonwch neges yn ôl a byddwn yn eich cysylltu â phwy bynnag sydd angen lifft. Os na allwch helpu’r tro hwn, anwybyddwch y neges ac, os bydd gennych unrhyw gwestiwn, gofynnwch.

Os hoffech ofyn am daith, gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg wedi ymuno. Fe all ceisiadau taith fod i unrhyw fan, ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm, ond eu bod yn cychwyn neu’n gorffen yn Sir Benfro. Byddwn yn anfon y cais i’r holl yrwyr y credwn allai helpu. Os ydynt yn mynd y ffordd honno, ac yn barod i helpu, byddant yn ateb y neges a byddwn yn eu cysylltu â chi.

Tra bo’r prosiect yn tyfu, efallai na fydd neb yn cyfateb i bob cais am daith bob amser ond, po fwyaf o bobl sy’n ymuno, gorau oll fydd eich cyfle! Os na allwn gael hyd i rywun sy’n cyfateb i chi, fe welwn a oes dewisiadau cludiant eraill ar gyfer eich taith, fel cludiant cyhoeddus neu gymunedol, a gadael i chi wybod os byddwn yn cael hyd i rywbeth a allai helpu.

Nac oes, gallwch ymuno ag Ewch â Mi Hefyd! fel gyrrwr neu deithiwr. Fe all holl ddefnyddwyr cofrestredig, gan gynnwys gyrwyr, wneud ceisiadau taith.

Gallwch ddefnyddio Ewch â Mi Hefyd! fel gyrrwr, teithiwr neu weithiau un ac weithiau’r llall – mae’r cyfan yn iawn gyda ni.

Os oes gennych anghenion ychwanegol neu os ydych yn debygol o fod angen help neu gymorth y gyrrwr pan fyddwch yn teithio, cofiwch egluro hyn yn eich cais am daith. Nid oes angen i chi ddatgelu unrhyw wybodaeth os yw’n annhebygol o effeithio ar naill ai’r gyrrwr na’ch taith.

Byddwn yn ceisio cael hyd i yrrwr sy’n gallu’ch helpu. Byddwn yn gofyn i holl yrwyr pan fyddant yn ymuno a oes ganddynt unrhyw brofiad o helpu pobl gydag anghenion ychwanegol, fel namau ar y golwg, colli’r clyw, dementia, anawsterau dysgu neu awtistiaeth. Byddwn hefyd yn gofyn a ydynt yn barod i gludo cymhorthion symud fel fframiau cerdded neu gadeiriau olwynion plygedig yn eu car. Sylwch na fyddem FYTH yn disgwyl i unrhyw yrrwr gynnal gofal personol, a rhaid i bawb sy’n defnyddio cadair olwynion neu gymorth symud allu mynd i mewn i’r car a dod allan ohono heb gymorth y gyrrwr.

Os yw’n well gennych, mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi i’ch helpu yn ystod y daith – peidiwch ag anghofio egluro hyn ar eich cais am daith, er mwyn sicrhau bod digon o seddau dros ben yn y car!

Os hoffech drafod unrhyw anghenion penodol gyda’r tîm Ewch â Mi Hefyd! cyn i chi ymuno, cysylltwch â ni. Byddem hefyd yn barod i siarad â chi ynghylch gwasanaethau cludiant cymunedol eraill a allai helpu.

Sylwch nad yw gyrwyr Ewch â Mi Hefyd! yn cael gwiriadau DBS.

Mae nifer cyfyngedig iawn o yrwyr gyda cherbydau hygyrch i gadeiriau olwyn wedi cofrestru gydag Ewch â Mi Hefyd! Rydym yn barod i gymryd eich cais am daith, ond nid oes modd cael hyd i rywun bob amser sy’n gallu cynnig lifft i chi mewn cerbyd addas.

Wyddech chi fod gan weithredwyr cludiant cymunedol Sir Benfro nifer o geir hygyrch i gadeiriau olwynion ar gael i’w llogi, neu gyda gyrrwr gwirfoddol, fel rhan o gynllun Ceir Cefn Gwlad Sir Benfro? I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, cysylltwch â ni.

Rydym yn argymell yn gryf bod pobl sy’n teithio yn eu cadair olwynion yn cael pasbort cadair olwynion cyn teithio trwy Ewch â Mi Hefyd! Mae pasbortau cadeiriau olwynion yn rhad ac am ddim ac yn sicrhau bod cadair yn ddiogel i deithio fel hyn (wedi cael prawf gwrthdrawiad) ac mae’r pasbort hefyd yn cynnwys pwysau cyfunol y teithiwr a’r gadair a llun o sut i’w dal yn ddiogel. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. http://www.pacto.org.uk/downloads/Wheelchair_Passport_Flyer.pdf

Mae Ewch â Mi Hefyd! yn awgrymu cyfraniad fesul teithiwr am eich taith ar sail hyd eich taith a defnyddio Lwfans Tâl Milltiroedd Cymeradwy Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae’r swm a awgrymir yn sicrhau talu treuliau ond bod neb yn gwneud elw – os byddwch yn gwneud elw ar daith, mae yswiriant eich car yn debygol o fod yn annilys.

Yr awgrym yw 25c y filltir am y milltiroedd a rannwch.

Mae’r gyrrwr a’r teithiwr yn gallu gweld y pris a awgrymir, fel bod pawb yn gwybod ble maent yn sefyll. Wrth gwrs, efallai y byddwch eisiau cytuno ar ffeirio’n hytrach – teisen gwpan gartref neu ychydig o lysiau cartref yn gyfnewid am lifft, efallai?

Rydym yn disgwyl i bawb sy’n ymuno ag Ewch â Mi Hefyd! ddilyn ychydig o reolau sylfaenol. Byddwn yn gofyn i chi gytuno â’r rheolau hyn pan fyddwch yn ymuno gyntaf:

  • Parchwch eich gyrrwr/cyd-deithiwr. Fel teithiwr – ac  yn sicr fel gyrrwr (!) – peidiwch â threulio’r daith gyfan ar eich ffôn. Gall dynnu sylw eich gyrrwr, yn ogystal â gwneud i chi ymddangos yn anghyfeillgar.
  • Bod yn gwrtais a chyfeillgar. Wnewch chi ddim cytuno â phawb ar bopeth, ond lifft yw hwn, ac fe all y rhan fwyaf ohonom gytuno i anghytuno tra byddwn ar daith.
  • Bod yn ddibynadwy. Dylech gwrdd yn y lleoliad a’r amser y cytunoch arnynt – os nad ydych chi’n gallu bod yno, neu os byddwch chi’n hwyr, rhowch wybod i’r unigolyn arall cyn gynted â phosibl.
  • Cadarnhau nad yw eich gyrrwr / teithiwr yn malio cyn i chi fwyta neu yfed yn y car. Mae hyn yn arbennig o bwysig i deithwyr – rydych yng nghar glân (gobeithio) rhywun arall!
  • Peidiwch â thybio bod pawb wrth eu bodd â roc trwm neu gerddoriaeth glasurol. Os yw’r radio / cerddoriaeth ymlaen, holwch a yw’n dderbyniol i’r ddau ohonoch am gyfnod y daith.
  • Gyrwyr, cofiwch gadw’r car yn dderbyniol lân, gyrru’n ddiogel ac ystyriol, bod yn gyfeillgar a chwrtais a dweud wrth y teithiwr am unrhyw reolau sylfaenol anghyffredin cyn cytuno ar lifft!
  • Teithwyr, cofiwch ofyn cyn newid unrhyw rai o reolyddion y car, gan gynnwys tymheredd a lefel y sain, gofyn cyn ysmygu / mewnanadlu, bwyta neu yfed a chynnig talu cyn gorfod gofyn i chi!

Cewch gynnig cyfle i roi ymateb am eich gyrrwr / teithiwr ar ôl pob taith. Os oes gennych unrhyw bryderon difrifol ynghylch defnyddiwr arall, cysylltwch â ni ar unwaith.

Rydym eisiau i bawb bosibl allu defnyddio’r system. Felly, cofiwch sôn wrthym os ydych yn credu y gallem helpu – byddwn mor hyblyg ag y gallwn!

Fe allai’r dudalen berthnasol ar y wefan hon helpu. Anfonwch neges atom ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag y gallwn, neu ffoniwch ni yn ystod ein horiau swyddfa.

Mae staff yn y swyddfa fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10.00am i 1.00pm heblaw Gwyliau Banc a rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Dros y penwythnos, byddwn yn cadw golwg ar y system ac yn ymateb i faterion pwysig yn unig o ran teithiau dros y penwythnos.

Cliciwch yma i gael manylion cysylltu.

Mae Ewch â Mi Hefyd! yn edrych ar bosibilrwydd helpu pobl sy’n fwy agored i niwed rannu lifftiau. Fe wyddom fod llawer o bobl Sir Benfro sy’n fwy agored i niwed yn cael trafferthion mawr gyda chludiant. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn ar ryw adeg i blant heb oedolyn.

Mae’n debygol y byddai’r math hwn o lifft yn gofyn gwiriadau ychwanegol, fel gwiriadau DBS, a hyfforddiant ychwanegol.

Os oes gennych chi neu rywun a wyddoch angen cludiant arbennig na allwn ei diwallu ar hyn o bryd, cysylltwch â ni, a byddwn yn ceisio gweld sut allem helpu.

Cael hyd i rywun sy’n cyfateb a chysylltu

Fe all ceisiadau taith fod i unrhyw fan, ar unrhyw adeg, ac am unrhyw reswm, ond eu bod yn cychwyn neu’n gorffen yn Sir Benfro.

Mewngofnodwch i Ewch â Mi Hefyd! a chlicio i ychwanegu cais am daith.

Byddwn yn anfon neges at bawb a gredwn allai helpu. Mae hyn yn debygol o gynnwys pawb a gofrestrwyd gyda ni yn y cylch lle’r ydych yn cychwyn eich taith, neu rywle y byddwch yn mynd drwyddo, neu a allai fod yn teithio drwy’r fan lle’r ydych, neu bobl a wyddom hefyd sy’n mynd yn rheolaidd i’r fan lle’r ydych eisiau mynd.

Y gobaith yw y bydd rhywun yn gallu helpu, ac yn cysylltu â ni i gynnig lifft. Yna byddwn yn gallu eich cysylltu (os ydych eich dau’n hapus ar yr adeg honno) er mwyn i chi allu trafod y manylion gyda’ch gilydd.

Tra bo’r prosiect yn tyfu, efallai na fydd bob amser rywun yn cyfateb i bob cais am daith ond, po fwyaf o bobl sy’n ymuno, gorau oll fydd eich cyfle! Os na allwn ni gael hyd i rywun ar eich cyfer, byddwn yn gweld a allai fod dewisiadau cludiant eraill ar gyfer eich taith, fel cludiant cyhoeddus neu gymunedol, a dweud wrthych os cawn hyd i rywbeth a allai helpu.

Cewch, gallwch fynd ble bynnag y mynnoch ond bod eich taith yn cychwyn neu’n gorffen yn Sir Benfro. Er enghraifft, efallai yr hoffech deithio i gêm neu sioe yng Nghaerdydd, a defnyddio Ewch â Mi Hefyd! i weld a yw rhywun arall o Sir Benfro’n mynd yno.

Yn y dyfodol, rydym yn ystyried ehangu Ewch â Mi Hefyd! i rannau eraill o Gymru, y DU, y byd! Os ydych yn credu y gallai Ewch â Mi Hefyd! fod yn ateb cludiant da yn eich ardal, cysylltwch â ni.

Unwaith y byddwch wedi gofyn am lifft, byddwn yn anfon neges at bawb a allai gyfateb a dweud wrthych os bydd rhywun (neu lawer o bobl) yn cynnig helpu. Os ydych eich dau’n cytuno byddwn yn eich cysylltu â’ch gilydd ac fe allwch wneud trefniadau ar gyfer y daith gyda’ch gilydd. Os yw’n well gennych beidio bryd hynny (neu gyda’r unigolyn dan sylw), i’r dim; peidiwch â manteisio ar y lifft.

Gallwch wneud hyn i gyd trwy e-bost, tecstio SMS neu dros y ffôn pan fo’r swyddfa ar agor.

Pan fydd rhywun yn gofyn am lifft, byddwn yn anfon neges at yr holl yrwyr a gredwn allai helpu. Os ydych chi’n gallu helpu, atebwch trwy neges SMS, e-bost neu dros y ffôn (mae unrhyw ffordd yn iawn ond, os yw’n well gennych ein ffonio, cofiwch ein horiau swyddfa). Byddwn yn eich cysylltu, ac i ffwrdd â chi!

Os na allwch helpu, anwybyddwch y cais. Os nad ydych yn sicr, arhoswch nes byddwch yn gwybod cyn cysylltu â ni, os gwelwch y gallwch helpu.

Bydd holl negeseuon ynghylch ceisiadau taith neu gynigion yn cynnwys dolen gyswllt i broffil y llall.

Gallwch weld proffil y teithiwr neu’r gyrrwr cyn i chi benderfynu rhannu.

Byddwn yn gofyn i chi greu eich proffil pan fyddwch yn cofrestru gyntaf gydag Ewch â Mi Hefyd! a gallwch ei ddiweddaru ar unrhyw adeg.

Po fwyaf y teimlwch y gallwch rannu (mae llun hapus, yn wên i gyd, yn gwneud gwyrthiau) rhwyddaf fydd i bobl deimlo cysylltiad, a chytuno i rannu lifft.

Gallwch olygu eich taith – dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin – ond cofiwch y bydd unrhyw newid yn achosi anfon neges newydd i’r gyrwyr / teithwyr tebygol. Os byddwch yn gwneud amryw newidiadau, fe all wylltio pobl, ac ni fydd hyn yn helpu i chi gael hyd i lifft! Rydym i gyd yn deall bod amgylchiadau’n newid, ond cofiwch eich bod yn cynhyrchu negeseuon pan fyddwch yn newid cais am daith.

Os yw rhywun eisoes wedi cytuno i rannu’r daith honno, dylech gysylltu â nhw’n uniongyrchol i drafod a chytuno unrhyw newidiadau.

Gallwch ddileu eich taith – dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin – a dweud wrthym os ydych yn cael trafferth!

Os yw rhywun eisoes wedi cytuno i rannu’r daith honno, dylech gysylltu â nhw’n uniongyrchol i ddweud wrthynt.

DIOGELWCH PERSONOL

Mae diogelwch ein haelodau’n flaenoriaeth Ewch â Mi Hefyd! – rydym i gyd yn deall yr angen i fod a theimlo’n ddiogel pan fyddwn allan o gwmpas.

Gwelwch ein tudalen Diogelwch i gael rhagor o wybodaeth a rhai awgrymiadau diogelwch personol defnyddiol.

Mae Ewch â Mi Hefyd! yn argymell yn gryf eich bod yn cyfarfod mewn man cyhoeddus wrth gael neu roi lifft gyda rhywun na welsoch o’r blaen.

Trefnwch i gyfarfod yn rhywle sy’n hawdd i’r gyrrwr ei gyrraedd a chael hyd iddo: dewisiadau da yw o flaen siop, caffi neu dafarn neu mewn safle bysiau, os oes un gerllaw.

Fe all fod yn well osgoi cyfarfod yn rhywle sy’n anodd cael car iddo neu allan ohono, er enghraifft lôn neu lwybr cul, neu rywle sy’n debygol o fod yn llawn tagfeydd – mae’n well osgoi canol Dinbych-y-pysgod yn yr haf os gallwch!

Ble bynnag y cytunwch gyfarfod, cofiwch sicrhau bod y ddau ohonoch yn glir ynghylch yr union fan, trwy ddefnyddio tirnodau os yw hynny’n helpu. Cynghorwn ein haelodau i beidio â chyfarfod yn eu cartrefi am resymau diogelwch.

Na fydd, bydd eich rhif ffôn a chyfeiriad e-bost yn guddiedig bob amser. Yr unig wybodaeth sy’n weladwy i aelodau eraill yw eich enw defnyddiwr, y teithiau a geisiwyd neu a gynigiwyd gennych a’ch llun a phroffil os ydych wedi’u hychwanegu.

Gallwch ddewis pa fanylion cysylltu i’w rhannu gyda phartner teithio ac ni fyddwn yn anfon y manylion hyn nes byddwch wedi cadarnhau lifft rhyngoch.

Pan fydd gyrwyr yn ymuno â’r cynllun byddwn yn cadarnhau eu trwyddedau gyrru. Dim ond gyrwyr gyda thrwyddedau gyrru llawn dilys a llai na 6 o bwyntiau cosb am fân dramgwyddau modurol sy’n cael eu derbyn.

Rydym hefyd yn cadarnhau bod treth a MOT dilys ar eu ceir, pan fyddant yn cofrestru gyntaf ar gyfer Ewch â Mi Hefyd! a phob blwyddyn wedi hynny.

Fodd bynnag, er mwyn eich tawelwch meddwl eich hun, rydym yn argymell eich bod yn gofyn i’r gyrrwr am rif cofrestru’r cerbyd a gwneuthuriad a model y cerbyd ac yna’n cadarnhau’r manylion ar https://www.vehicleenquiry.service.gov.uk/

Gwahoddwn holl deithwyr i sgorio eu gyrrwr ar ôl pob taith. Gallwch weld yr ymateb a gawsom ynghylch gyrrwr ar eu tudalennau proffil Ewch â Mi Hefyd!

Os byddwn yn cael cwyn ynghylch gyrrwr neu deithiwr, byddwn yn eu gwahardd dros dro o Ewch â Mi Hefyd! tra byddwn yn ymchwilio.

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn i ymuno ag Ewch â Mi Hefyd! a defnyddio ein gwasanaethau. Fe gaiff plant dan 18 deithio gydag aelod cofrestredig o Ewch â Mi Hefyd! Fel arfer, yr aelod sy’n gyfrifol am ddarparu a gosod seddi plant, os oes gofyn, er bod rhai gyrwyr yn fodlon gadael i chi ddefnyddio’u seddau plant. Peidiwch ag anghofio ychwanegu’r wybodaeth hon at y cais am daith fel bod y gyrrwr yn ymwybodol.

Dim ond gwasanaeth paru lifftiau yw Ewch â Mi Hefyd! ac nid yw’n gyfrifol am unrhyw deithiau nad ydynt yn mynd yn ôl y disgwyl. Yn yr un modd, nid yw’r gyrwyr a theithwyr sy’n cofrestru’u teithiau gyda ni dan unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i’w cymdeithion nac i Ewch â Mi Hefyd! i fwrw ymlaen gyda theithiau. Os ydych yn penderfynu na fyddwch yn gwneud taith, rydym yn gofyn eich bod yn dweud wrth y llall mewn da bryd.

Ar adegau prin, fe all trefniadau rhannu lifftiau fynd i’r gwellt pan fyddwch allan o gwmpas. Dydyn ni ddim am i unrhyw deithwyr fod ar y clwt os ydynt hwy, neu eu gyrrwr, yn gorfod gadael yn gynnar oherwydd argyfwng.

Yn y lle cyntaf, dylech bob amser siarad â’ch partner teithio i egluro’r sefyllfa. Mewn argyfwng gwirioneddol, bydd llawer o bobl yn barod i newid eu cynlluniau.

Os ydych ar y clwt heb unrhyw ffordd arall o gyrraedd adref, mae gan Ewch â Mi Hefyd! gysylltiadau â chwmnïau tacsi lleol i gynnig Reid Adref am ddim mewn Argyfwng. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion.

Ap Ewch â Mi Hefyd!

Na, mae angen i chi gofrestru drwy’r wefan yn gyntaf. Wedyn, gallwch lawrlwytho’r ap.

Mae ap Ewch â Mi Hefyd! ar gael am ddim ar ddyfeisiau Android ac iOS; nid yw ar gael ar hyn o bryd ar ffonau Windows.

Gallwch ddefnyddio’r ap hefyd i gadarnhau manylion unrhyw daith a geisiwyd gennych, a gytunwyd neu a orffennwyd, a manteisio ar y nodwedd diogelwch “Wedi Cyrraedd!”.

Gallech weld mai’r ap yw’r ffordd hawddaf o geisio / cynnig / cytuno ar lifftiau.

Fe all Ewch â Mi Hefyd! helpu eich diogelwch personol trwy gynnig y nodwedd ‘Wedi Cyrraedd!’ a fydd, os dewiswch ei defnyddio ar daith arbennig, yn eich atgoffa pryd ddylech fod yn cyrraedd pen eich taith (ar sail amcangyfrif o’r amser teithio), a gofyn i chi gadarnhau eich bod wedi cyrraedd yn ddiogel. Os bydd eich taith yn hwyr (oherwydd traffig, er enghraifft) gallwch ‘hepian’ yr ap, a bydd yn gofyn i chi eto ymhen ychydig. Os na fyddwch yn cadarnhau cyrraedd yn ddiogel, bydd yr ap yn hysbysu eich cyswllt nad ydych wedi cyrraedd eich cyrchfan yn ôl y disgwyl.