Cyfarwyddyd i Weithredwyr Tacsis Sir Benfro

Prosiect rhannu lifftiau cymunedol lleol yw Take Me Too! Mae’r prosiect yn paru pobl sydd angen cludiant gyda rhywun sy’n mynd yr un ffordd, ac sy’n barod i roi lifft iddynt.

Yr elusen cludiant cymunedol lleol PACTO (Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro) sy’n rhedeg Take Me Too! ac mae wedi cael cymorth ariannol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Er bod Take Me Too! yn brosiect newydd sy’n cael ei ddatblygu’n benodol ar gyfer cymunedau gwledig, mae’n dilyn patrwm cynlluniau rhannu lifftiau eraill a sefydlwyd eisoes yn Sir Benfro, fel Liftshare.com a Blablacar. Mae deddfwriaeth rhannu ceir yn llywodraethu’r cynlluniau hyn i gyd dan Ddeddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 1981 (Adran 1(4)).

NID YW gyrwyr sy’n gwirfoddoli i gynnig lifftiau fel rhan o Take Me Too! yn cael eu talu. Awgrymwn gyfraniad teithiwr o 25c y filltir. Ni chaiff elw ei wneud.

Sylwch fod lifftiau yn y cyd-destun hwn yn hollol wahanol i arferion anghyfreithlon towtio am lifftiau ar gyfryngau cymdeithasol. Rydym yn cydnabod fod yr arfer hwn yn gwneud drwg i’r fasnach dacsis ac rydym yn cefnogi tîm Trwyddedu Cyngor Sir Penfro yn eu hymdrechion i ddileu’r arfer hwn.

Caiff holl drefniadau ar gyfer lifftiau trwy Take Me Too! eu gwneud o flaen llaw – nid oes unrhyw dowtio am deithwyr ar y stryd.

Tra nad oes gofyn i yrwyr gael yr un gwiriadau â gyrwyr tacsi newydd, rhaid i holl yrwyr a theithwyr gofrestru gydag Take Me Too! cyn iddynt allu cynnig neu ofyn am lifft. Fel rhan o’r broses ymuno, byddwn yn cadarnhau trwydded pob gyrrwr a’r statws MOT a Threth eu car. Os byddwn yn cael cwyn ynghylch unrhyw yrrwr neu deithiwr, byddant yn cael eu hatal o Take Me Too! tra byddwn yn ymchwilio. Rydym yn rhoi rhagor o gyngor ynghylch rhannu lifftiau’n ddiogel ar ein gwefan: https://takemetoo.co.uk/en/safety/?lang=cy   

Byddwn yn cyfeirio at wasanaethau cludiant. Os nad yw teithiwr yn cael cynnig lifft am daith arbennig, byddwn yn awgrymu dewisiadau eraill iddynt, gan gynnwys gwasanaethau cludiant cyhoeddus a chymunedol a thacsis pan fo hynny’n briodol.

Os hoffech gael gwybod mwy ynghylch Take Me Too! ymwelwch â’n gwefan www.takemetoo.org.uk, e-bost hello@takemetoo.org.uk neu ffoniwch ni ar 01437 701123 (dydd Llun i ddydd Gwener 09.00 – 16.00).