PACTO

Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO) a ddyfeisiodd Ewch â Mi Hefyd! ac sy’n ei gydgysylltu.

Elusen leol yw PACTO sy’n tynnu ynghyd, yn cryfhau ac yn cynrychioli’r sector cludiant cymunedol yn Sir Benfro. Mae gwasanaethau cludiant cymunedol yn cynorthwyo pobl a grwpiau nad oes ganddynt eu cludiant eu hunain ac sydd heb neu sy’n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus confensiynol.

Ochr yn ochr ag Ewch â Mi Hefyd! mae amrywiaeth o wasanaethau cludiant cymunedol ar gael yn Sir Benfro, gan gynnwys y canlynol:

  • Gwasanaethau Ceir Cymdeithasol, lle bydd tîm o wirfoddolwyr yn defnyddio’u ceir eu hunain i fynd â phobl ar deithiau hanfodol fel i apwyntiadau ac i siopa. Y cynllun mwyaf o’r fath yn Sir Benfro yw Ceir Cefn Gwlad sy’n cael ei redeg gan RVS.
  • Gwasanaethau Galw am Gludiant, ym mhrif drefi Sir Benfro a rhai ardaloedd gwledig.
  • Ceir Hygyrch, ar gael gyda gyrrwr gwirfoddol neu logi a’u gyrru’ch hunan.
  • Bysiau mini ar gael at ddefnydd grwpiau cymunedol, gan gynnwys bysiau mini hygyrch i gadeiriau olwynion a bysiau mini bach i’w gyrru gyda thrwydded car cyffredin.

Mae llawer o'r gwasanaethau hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr – yn arbennig, rydym bob amser yn chwilio am yrwyr ceir gwirfoddol ledled Sir Benfro.I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli anfonwch e-bost: hello@pacto.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am PACTO a’r gwasanaethau cludiant cymunedol eraill sydd ar gael yn Sir Benfro, ymwelwch â’n gwefan:www.pacto.org.uk